Amodau a Thelerau

Telerau ac amodau

Rhaid derbyn y telerau ac amodau canlynol er mwyn defnyddio’r wefan hon. Nodwch hefyd ein defnydd o gwcis. Gweler isod

Hawlfraint

Seiliwyd y geiriadur hwn ar eiriadur print a gyhoeddwyd gan gyhoeddwyr CAA yn 2000 ar ran Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd caniatâd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i ddiweddaru’r cyhoeddiad hwnnw a’i greu yn adnodd ar-lein a fyddai ar gael i’w ddefnyddio dan drwydded agored Creative Commons BY-SA 4.0. Rhaid cydnabod Llywodraeth Cymru a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol fel ffynhonnell y deunydd.

Ni chewch gopïo na defnyddio unrhyw nod masnach (boed yn gofrestredig neu beidio) na logo neu ddyfais neu nod arall sy’n dynodi neu’n perthyn i’r Coleg Cymraeg, Llywodraeth Cymru, na Geiriadur Ffrangeg Ar-lein heb ganiatâd ysgrifenedig y perchennog.

Ein defnydd ni o gwcis

Oherwydd ystyriaethau preifatrwydd a phryderon ynghylch y defnydd o gwcis i ysbïo ar gyfrifiaduron defnyddwyr, gofynnwn i ddefnyddwyr ddeall beth yw cwcis.

Ffeil fechan yw cwci y mae gwefan yn ei gosod ar ddisg galed eich cyfrifiadur. Mae’n gwneud hyn er mwyn cofio rhywbeth amdanoch y tro nesaf y byddwch yn ymweld â’r wefan honno. Gall cwcis fod yn ffordd hwylus iawn o gofio dewisiadau defnyddwyr, ond gallant hefyd gael eu camddefnyddio i gywain gwybodaeth bersonol.

Ein defnydd ni o Google Analytics

Rydym yn monitro gweithgarwch defnyddwyr y wefan hon er mwyn gwella’r cynnwys. Mae’r wefan yn defnyddio Google Analytics, gwasanaeth dadansoddi’r we a ddarperir gan Google Inc. (‘Google’). Mae Google Analytics yn defnyddio cwcis a chod JavaScript i helpu’r wefan i ddadansoddi sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r safle. Bydd yr wybodaeth a gynhyrchir gan y cwci am eich defnydd o’r wefan yn cael ei chofnodi yn hollol ddi-enw, ei throsglwyddo a’i storio ar weinyddion Google yn yr Unol Daleithiau.

Bydd Google yn defnyddio’r wybodaeth hon er mwyn llunio adroddiadau am weithgareddau defnyddwyr ar gyfer y wefan hon. Gall Google hefyd drosglwyddo’r wybodaeth hon i drydydd parti pan fydd yn ofynnol i wneud hynny’n gyfreithiol, neu pan fydd trydydd parti yn prosesu’r wybodaeth ar ran Google.

Gallwch wrthod defnyddio cwcis drwy ddewis y gosodiadau priodol ar eich porwr, ond nodwch os gwnewch hyn efallai na fyddwch yn gallu defnyddio’r wefan hon yn llawn. Drwy ddefnyddio’r wefan hon, rydych yn rhoi caniatâd i Google brosesu data ar eich defnydd di-enw o wefan Geiriadur yr Academi yn y dull ac i’r dibenion a nodwyd uchod.